Eluned Morgan MS
Eluned Morgan
No Result
View All Result

Galw am strategaeth i’r economi wledig yn sgil Brexit

admin by admin
10/08/2019
in Campaigns
0
0
SHARES
0
VIEWS

Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi herio Llywodraeth Cymru i greu strategaeth economaidd wledig ar frys, i ymateb i heriau Brexit a’r rhanbarthau dinesig.

Mewn adroddiad o’r enw Cymru Wledig: Amser i Ymateb i’r Her 2025, mae Eluned Morgan, AC dros y Canolbarth a’r Gorllewin, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen gadarn i baratoi ar gyfer yr economi yn dilyn Brexit.

  • AC yn galw am gynllun economaidd penodol i gefn gwlad
  • Diwedd cymorthdaliadau Ewropeaidd yw’r ‘pryder mwyaf’

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ymgymryd ag adolygiad o’r adnoddau penodol fydd ar gael i’r Gymru wledig” o fewn ei hadran datblygu economaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn “adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd ac, fel rhan o’r gwaith yma, byddwn yn sicrhau bod materion gwledig yn cael eu diogelu”.

Eluned Morgan yn egluro’r heriau sy’n wynebu economi wledig Cymru

Mae’n mynd ymlaen i ddweud y dylid rhoi ystyriaeth i sefydlu Comisiynydd Materion Gwledig Annibynnol i fod yn gyfrifol am bolisiau cefn gwlad a sicrhau fod Cymru wledig yn ystyriaeth o fewn rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Mae’n dweud fod “yn rhaid i gynllun fod yn barod… i sicrhau fod gan y Gymru wledig y gallu i flodeuo’n economaidd yn y dyfodol a pharhau i fod yn amgylchedd hyfyw i bobl hen ac ifanc gael byw a gweithio ynddi”.

Dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru fod y “rhanbarthau dinesig yn brysio yn eu blaenau” a bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu “ymateb buan” ar gyfer ardaloedd gwledig.

Mae Brian Thomas o’r FUW yn croesawu’r syniad o benodi Comisiynydd Cefn Gwlad

Gan groesawu’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ar hyn o bryd rydyn ni’n adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd ac, fel rhan o’r gwaith yma, byddwn yn sicrhau bod materion gwledig yn cael eu diogelu ac yn nodwedd gref wrth i Gymru weithio tuag at ddyfodol y tu allan i’r UE.

“Ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd, rydyn ni wedi bod yn cynnal trafodaethau eang ar oblygiadau tebygol Brexit gyda chymunedau gwledig ledled Cymru.

“Wrth gwrs, mae datblygiad economaidd ein cymunedau gwledig yn cael ei gefnogi gan lefelau sylweddol o nawdd yr UE, ac mae’n bosib mai yma y bydd gadael yr UE yn fwyaf amlwg, ac yn gweld effaith gyflymaf.

“Mae’n hanfodol bod yr heriau y mae ein cymunedau gwledig yn wynebu yn parhau i dderbyn rhagor o fuddsoddiad ymroddedig – ac rydyn ni’n pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei addewidion yn ystod ymgyrch y refferendwm y byddai Cymru ddim yn colli nawdd o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.”

 

Credit: BBC http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40473656

Previous Post

Visit to IBERS

Next Post

Health Board gives go-ahead for Tenby minor injuries unit

admin

admin

Next Post
Health Board gives go-ahead for Tenby minor injuries unit

Health Board gives go-ahead for Tenby minor injuries unit

Plugin Install : Widget Tab Post needs JNews - View Counter to be installed
  • Trending
  • Comments
  • Latest

17/11/2020

Eluned Morgan is Wales’ new Minister for Mental Health and Wellbeing

12/11/2020
Covid-19 Press Conference 4/11/20

Covid-19 Press Conference 4/11/20

17/11/2020
Great Daffodil Appeal

Great Daffodil Appeal

05/02/2020

Recent News

17/11/2020

Eluned Morgan is Wales’ new Minister for Mental Health and Wellbeing

12/11/2020
Covid-19 Press Conference 4/11/20

Covid-19 Press Conference 4/11/20

17/11/2020
Great Daffodil Appeal

Great Daffodil Appeal

05/02/2020
Eluned Morgan

© 2020 Eluned Morgan MS

Follow Eluned

No Result
View All Result

© 2020 Eluned Morgan MS

Welcome Back!

Login to your account below

Forgotten Password?

Create New Account!

Fill the forms below to register

All fields are required. Log In

Retrieve your password

Please enter your username or email address to reset your password.

Log In

Add New Playlist